Cymdeithas Rhieni ac Athrawon

Mae addysg pob plentyn yn bartneriaeth tair ffordd rhwng rheini, disgyblion a’r athrawon.

  • Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod rheini yn wybodus am waith yr ysgol drwy lythyron newyddion a gwybodaeth gyson.
  • Trefnir cyfarfodydd ffurfiol rhwng rhieni ac athrawon ac mae ein polisi ‘drws agored’ yn croesawi cyswllt anffurfiol rhwng rheini ac athrawon yn gyson.
  • Annogir rhieni i hybu dysgu eu plant gartref drwy eu cefnogi gyda’u gwaith cartref, darllen a dysgu tablau.
  • Mae rhieni yn cynnig cefnogaeth ymarferol gwerthfawr i’r ysgol megis cefnogi gweithgareddau a mynd ar ymweliadau addysgol, hyn yn ogystal â chefnogaeth ariannol.
  • Mae Cymdeithas Cyfeillion yr Ysgol yn trefnu digwyddiadau i godi arian megis ‘Mabolgampau Ysgol’ a ‘Ffair Nadolig’.

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon

Mae gan yr ysgol Gymdeithas Rhieni ac Athrawon gefnogol a gwahoddir pob rhiant i ymuno yn ei gweithgareddau. Nid yw’r gymdeithas hon yn bodoli yn unig ar gyfer `codi arian’.

Prif amcanion Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Meidrim yw:

  • I ddatblygu dealltwriaeth lawn rhwng rhieni ac athrawon.
  • I gynorthwyo rhieni i ddeall datblygiadau diweddar mewn dysgu ac addysgu.
  • I ddarparu gwybodaeth ehangach am y ddarpariaeth lleol a chenedlaethol o fewn addysg.
  • I gefnogi gweithgareddau o bob math er mwyn hyrwyddo addysg a lles ein disgyblion.
  • I gynorthywo’r ysgol i gynnal mwynderau na fyddent ar gael yn arferol, drwy gasglu arian.