Dosbarth Iau

Athro Dosbarth: Mr. Mark Ford

Dosbarth cymysg yw hwn ar gyfer blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 (7-11 mlwydd oed)

PYNCIAU CRAIDD

Iaith, Cymraeg a Saesneg

Mathemateg

Gwyddoniaeth

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

PYNCIAU ALL-GRAIDD [Thematig]

Hanes

Daearyddiaeth

Addysg Grefyddol

Cerddoriaeth

Celf

Dylunio a Thechnoleg

Addysg Gorfforol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Cofnod Datblygiad y Disgybl

Gwahoddir y rhieni i Nosweithiau Agored yn nhymhorau’r Gwanwyn a’r Haf lle rhoddir cyfle i’r rhieni edrych o amgylch yr ysgol i weld gwaith y plant ac i siarad yn unigol ag athro’r disgybl. Dosberthir adroddiad ysgrifenedig ar gynnydd disgyblion ar ddiwedd Tymor yr Haf. Gwahoddir y rhieni i noson rieni ffurfiol i drafod cynnydd a thargedau y plant yn ystod tymor yr Hydref.

Mae croeso hefyd i rieni ymweld â’r ysgol ar unrhyw amser cyfleus i ymdrin â gwaith eu plentyn neu broblem a allai godi. Gwahoddir rhieni sydd yn pryderu ynglyn â phroblemau addysgiadol, ymddygiad neu ddatblygiad corfforol i gwrdd â’r Pennaeth i’w trafod a cheisio eu datrys. Gellir trin problemau fel yr uchod yn llwyddiannus yn yr ysgol.