Mae Siop Ffrwythau ar agor yn ddyddiol ac mae plant y Cyfnod Sylfaen yn derbyn llaeth yn rhad ac am ddim. Mae ein hardaloedd chwarae y tu allan yn hybu ffyrdd o fyw bywiog ac iachus.
Annogwn bawb i osgoi gwastarff, arbed ynni a dŵr ac i arbed, ail-ddefnyddio ac ail-gylchu. Ail-gylchwn bapur, cerdyn, plasig a batris.
Mae’n disgyblion yn gwerthfawrogi a mwynhau eu profiadau dysgu yn mherfformiadau’r ‘Brodyr Bach’ lle cânt gyfle i ddysgu am ddiogelwch ar y ffordd, dinasyddiaeth, cynaladwyedd a bwyta iach.
Gwobrwyd yr ysgol â Phedair Deilen Ysgol Iach ac mae sefydlu gerddi yn yr ysgol wedi bod yn weithgaredd gwerth chweil. Rydym wedi ennill y faner werdd eleni.