Athrawes Ddosbarth: Mrs Emma Timothy-Cooper
Cynorthwy-ydd Dosbarth: Mrs Katie Thomas
Dosbarth cymysg yw hwn ar gyfer blynyddoed Meithrin, Derbyn 1 a 2 (4-7 mlwydd oed)
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cael ei roi ar waith mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer plant o oedran 3-7 mlwydd oed. Mae’r addysg sy’n cael ei gynnig o fewn y Cyfnod Sylfaen wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygiad cyfannol y plentyn – mae’r plentyn yn ganolog i’r dysgu.
Mae’r addysg a gweithgareddau yn cwmpasu anghenion y plentyn, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae strwythuredig, mae’r plentyn yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau unigryw, yn werthfawr.
Mae’r holl gyfleoedd hyn yn hanfodol ar gyfer y plentyn gan eu bod yn cyfrannu at ddatblygiad y plentyn yn ei gyfanrwydd.